Cefndir Cyhoeddodd Canghellor
y Trysorlys yn y Gyllideb (Mawrth 2001) ei fod yn bwriadu
cyflwyno cynllun grantiau interim a fyddai'n ad-dalu ar ffurf
cymorth grant y gwahaniaeth rhwng 5% a'r gwir swm a wariwyd
ar TAW ar waith cynnal a chadw ac atgyweiriadau cymwys ar
fannau addoli rhestredig. Estynnwyd hyn yng Nghyllideb Mawrth
2004 i gynnwys y swm llawn sy'n cael ei wario ar TAW am waith
cymwys a wnaed ar 1 Ebrill 2004 ac ar ôl hynny.
Mae'r Llywodraeth wedi gwneud cynigion i'r Comisiwn Ewropeaidd am gyfradd TAW
ostyngedig o 5% ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweiriadau
ar fannau addoli rhestredig. Ar hyn o bryd, disgwylir i'r
cynllun barhau tan 31 Mawrth 2011 oni bai bod cyfradd ostyngedig
barhaol yn cael ei chyflawni ynghynt.
|