LPW Grant Scheme
English / SaesnegEnglish Site

 

Cam 2 --- Adeilad Rhestredig

Cam 2. Nodyn 2.1: "adeilad rhestredig"
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid bod eich eglwys wedi’i rhestru gyda’r asiantaeth restru statudol berthnasol (English Heritage, CADW, Historic Scotland neu Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon).

Os anfonir eich cais yn ôl atoch oherwydd na allwn adnabod rhestriad eich adeilad, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw’ch eglwys wedi’i rhestru – gall olygu bod y manylion a gofrestrwyd ar y pryd ychydig yn wahanol i’r rhai a nodir ar y ffurflen gais. Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ynghyd â’r gwaith papur i ddangos bod yr adeilad wedi’i restru gyda’r asiantaeth restru statudol berthnasol.

Mae gwirio'r cofnodion statudol i gadarnhau bod eich adeilad wedi'i restru'n ffurfiol yn rhan o'n proses gymeradwyo.

Gellir rhestru adeiladau am eu pwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol, cysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau pwysig yn genedlaethol, neu eu gwerth fel rhan o grŵp, gan yr awdurdod rhestru yn eich gwlad. Mae oedran a phrinder yn ystyriaethau perthnasol, ond po hynaf yr adeilad, tebycaf yw y bydd wedi ei restru. Nid yw adeiladau sy'n llai na deng mlynedd ar hugain oed yn cael eu hystyried ar gyfer eu rhestru fel arfer.

Gwelir manylion am sut i geisio cael adeilad wedi'i restru yn yr adran: Rhestru Adeilad

Nesaf: Cam 3 --- Gwariant Cymwys

[HAFAN] [MANYLION CYSWLLT]


The Department for Culture, Media & Sport

         Addef
Y Broses 4-Cam
Manylion cysylltu
Listed Places of Worship Grant Scheme
PO Box 609,
Newport NP10 8QD,
South Wales,
United Kingdom
Tel: 0845 601 5945