|
CWESTIYNAU CYFFREDIN
YMHOLIADAU YN YMWNEUD Â RHESTRU
1. Dydw
i ddim yn gwybod a yw’r eglwys yn adeilad rhestredig?
Ble y gallaf gael y wybodaeth hon?
Cysylltwch naill ai ag Adran Gynllunio
eich Awdurdod Lleol, neu'r asiantaeth restru statudol berthnasol
(am fanylion ar gyfer cysylltu, cyfeiriwch at Atodiad A ar
glawr ôl y daflen hon)
Ni fydd atgyweiriadau i adeiladau anrhestredig yn gymwys
ar gyfer y cynllun hwn. Fodd bynnag, os ydych yn ystyried
bod yr adeilad yn haeddu cael ei restru, dylech ystyried cyflwyno
cais i'r asiantaeth restru statudol berthnasol.
2. Os ydw i'n trefnu rhestru
fy adeilad nawr, a allaf wneud cais ar gyfer gwaith a wnaed
cyn ei restru?
Na. Ni dderbynnir ceisiadau am waith a wnaed ar adeiladau
nad ydynt wedi'u rhestru ar yr adeg honno, ni waeth a ydynt
yn cael eu rhestru wedyn yn y dyfodol. Ystyrir ceisiadau yn
unig am atgyweirio adeiladau sydd wedi'u rhestru pan wneir
y gwaith.
3. Roedd fy adeilad wedi'i restru
pan wnaed y gwaith, ond yna tynnwyd ei enw oddi ar y rhestr
cyn i mi gyflwyno fy nghais am Grant Mannau Addoli Rhestredig.
A allaf wneud cais o hyd, er nad yw'r adeilad wedi'i restru
bellach?
Gallwch. Rhaid i chi ddarparu gyda'ch cais, dystiolaeth bod
y gwaith wedi cael ei wneud pan oedd yr adeilad wedi'i restru.
4. Dydw i ddim yn gwybod beth
yw’r radd / categori rhestru. Ydy hyn o bwys?
Nac ydyw, ar gyfer croesgyfeirio'ch manylion ar ein cofrestr
o adeiladau rhestredig yn unig y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth
hon. Gellir gadael C13 yn wag – ni fydd hyn yn achosi
oedi o ran prosesu’ch cais.
YMHOLIADAU ANFONEBAU / TAW
5. A allaf wneud cais os ydw i wedi colli fy anfonebau
TAW?
Gallwch ddarparu anfoneb daledig wreiddiol yn eu lle. Os
na allwch wneud hynny, bydd angen i'ch contractwr ailgynhyrchu
eich anfonebau, ac mae'n rhaid i'r contractwr nodi eu bod
yn gopi gwir ac ardystiedig, eu llofnodi a'u dyddio. Os na
ddarperir anfoneb addas, bydd hyn yn golygu na dderbynnir
y cais.
6. A allaf wneud cais os nad
ydw i wedi talu fy anfoneb TAW?
Na allwch. Mae'n rhaid eich bod wedi talu eich anfoneb TAW
cyn gwneud cais am grant o dan y cynllun hwn.
7. A allaf gyflwyno fy holl anfonebau
i weithredwr er mwyn iddynt hwy benderfynu beth sy'n gymwys?
Na allwch. Mae'n hanfodol eich bod yn darllen yr Arweiniad
ar y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig ac yn cyflwyno
dim ond yr anfonebau hynny sydd a wnelont â gwaith sy'n
gymwys o dan y cynllun hwn. Bydd cyflwyno nifer fawr o anfonebau
amhriodol i'r gweithredwr yn cynyddu'r posibilrwydd o wrthod
eich cais, a gall achosi oedi cyffredinol wrth brosesu ceisiadau.
8. A oes yn rhaid i’r contractwr
fod wedi'i gofrestru ar gyfer TAW er mwyn bod yn gymwys?
Oes.
9. Os byddaf yn gwneud y gwaith
yn uniongyrchol a bod yn rhaid talu TAW, a oes modd i mi adennill
hyn?
Oes, ond ar yr amod eich bod yn gontractwr sydd wedi'i gofrestru
ar gyfer TAW.
10. Gwnaed y gwaith gan gontractwr
/ cynulleidfa nad yw wedi'i gofrestru/chofrestru ar gyfer
TAW. A allwn ni hawlio'r TAW ar gyfer y deunyddiau y gwnaethom
eu prynu?
Na. Ni allwch hawlio TAW ar ddeunyddiau oni bai eu bod wedi'u
cynnwys yn yr adeiladwaith gan gontractwr sydd wedi’i
gofrestru ar gyfer TAW.
11. A allaf gyflwyno
anfonebau sydd wedi'u dyddio ar ôl 1/4/01 yn unig?
Na, ond ni allwch hawlio ond am waith ar ôl 1/4/01.
Mewn achosion lle mae'r anfoneb yn ymwneud â gwaith
sy'n rhychwantu'r cyfnod yn union cyn ac ar ôl 1 Ebrill
2001, rhaid i chi sicrhau bod y rhaniad yn cael ei ddatgan
naill ai ar yr anfoneb neu ar y ffurflen gais.
YMHOLIADAU YN YMWNEUD Â’R
FFURFLEN GAIS
12. A oes ots os na fydd gan y bobl sy'n llofnodi'r
ffurflen wybodaeth lawn am y gwaith a wnaed?
Rhaid mai'r cyd-lofnodwr sydd â'r uwch swydd, a rhaid
iddo nodi ei fanylion yn C6. Os ond nad dyma'r unigolyn gorau
i gysylltu ag ef ar gyfer ymholiadau, rhaid nodi dewis arall
yn C7. Dyma'r unigolyn y byddwn yn cyfeirio pob ymholiad ato
ac yn dychwelyd yr holl waith papur iddo.
Os nad oes dewis arall wedi'i nodi yn C7, y cydlofnodwr y
ceir manylion amdano yn C6 fydd y prif gyswllt.
Ni allwn gyfathrebu ag unrhyw drydydd parti (h.y. contractwr,
pensaer ac ati).
13. A fydd y wybodaeth a gyflwynir
ar ffurflen gais Mannau Addoli Rhestredig yn cael ei rhannu
ag asiantaethau statudol eraill?
Bydd. Hysbysir asiantaethau statudol am yr holl grantiau
a ddyfernir o dan y Cynllun Mannau Addoli Rhestredig. Gwneir
hyn er mwyn osgoi'r posibilrwydd o dalu arian cyhoeddus ddwywaith
am yr un costau, i bob pwrpas.
14. A allaf wneud cais am grant
Mannau Addoli Rhestredig ac am grant gan asiantaeth statudol
arall am yr un gwaith?
Gallwch. Fodd bynnag, rhaid i chi sicrhau bod y grant gan
yr asiantaeth statudol arall yn ystyried eich grant Mannau
Addoli Rhestredig. Os nad yw’n gwneud hynny, yna bydd
yn rhaid i chi ad-dalu iddynt y gyfran berthnasol o'r arian
a gewch ar gyfer y grant Mannau Addoli Rhestredig.
15. Dyfarniadau grant blaenorol
– pam na all y cynllun Mannau Addoli Rhestredig leihau'r
swm sy'n ddyledus i'r eglwys, ac ad-dalu'r sefydliad grant
yn uniongyrchol?
Contract rhwng yr eglwys a'r corff sy'n talu'r grant yw unrhyw
ddyfarniad grant blaenorol, ac nid yw'n gysylltiedig â'r
cynllun hwn.
16. Defnyddir yr eglwys yn ogystal
ar gyfer cyfarfodydd cymunedol, grwpiau sgowtiaid, ac ati.
A yw hyn yn iawn?
Ydy, mae hyn yn iawn os addoli crefyddol cyhoeddus yw’r
prif ddefnydd. Fodd bynnag, os oes unrhyw ran o’r eglwys
yn cael ei defnyddio fel llety, nid yw’r elfen hon yn
gymwys o dan y cynllun.
Pan fydd anfonebau yn cynnwys yr eglwys a’r llety,
rhaid dangos y rhaniad yn y gost yn glir naill ai ar yr anfoneb
neu ar y ffurflen gais.
17. Mae'r eglwys ar gau ar hyn
o bryd am resymau iechyd a diogelwch. Felly, nid yw wedi cynnal
chwe gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. A ydw i'n dal
i fod yn gymwys?
Ar yr amod bod y gwaith wedi'i ddechrau ymhen cyfnod byr
ar ôl cau'r eglwys, a'i bod wedi cael ei defnyddio ar
gyfer o leiaf chwe gwasanaeth yn ystod y flwyddyn flaenorol
cyn ei chau, mae hyn yn iawn.
Mewn achosion lle mae oedi rhwng y cau a’r gwaith yn
dechrau, cysylltwch â'r Llinell Gymorth ar 0845 601
5945 am arweiniad. (Dylech fod yn ymwybodol y gallai fod angen
i ni gyfeirio'ch achos at yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau
a Chwaraeon am benderfyniad ar gymhwyster eich cais).
18. Mae Cwestiwn 23 yn ddryslyd.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd llenwi'r adran hon
o'r ffurflen gais, cysylltwch â'r Llinell Gymorth. Fel
arall, gadewch y bwlch ar gyfer ateb y cwestiwn hwn yn wag.
Ni fydd hyn yn achosi oedi cyn gwneud y taliad, oherwydd gallwn
gael y wybodaeth sy'n ofynnol o'r anfonebau. Os oes angen
egluro unrhyw bwyntiau arnom, byddwn yn cysylltu â'r
sawl a benodwyd i dderbyn gohebiaeth.
YMHOLIADAU YNGHYLCH CYMHWYSTER
19. Pam nad yw'r gwaith sy'n gysylltiedig â
mynediad ar gyfer pobl anabl yn gymwys?
Yn gyffredinol, bydd gwaith a wneir mewn perthynas â
dyletswyddau o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd
(DGSA), neu waith arall i hwyluso mynediad i bobl anabl, yn
cael ei ystyried yn 'welliannau' neu osodion a gosodiadau
ychwanegol.
Dylai gwaith i ddarparu mynediad i gadair olwyn, gan gynnwys
ehangu unrhyw fylchau drysau, gosod rampiau neu gael gwared
ar bibwaith, a wnaed mewn perthynas â gofynion DGSA,
fod yn gymwys o dan y system gymorth TAW, a dylai gael cyfradd
TAW sero yn yr anfoneb. Gallai gwaith arall fod yn gymwys
am gymorth hefyd. Am wybodaeth ynghylch codi tâl TAW,
dylech gysylltu â Chyllid a Thollau EM yn uniongyrchol
ar 0845 010 9000 neu edrychwch ar hysbysiad TAW 701/7.
20. Gwaith trydan, plymwaith
a gwres – pam nad yw'r rhain yn gymwys?
Gosodion a gosodiadau yw'r rhain. Mae gwaith yn gymwys yn
unig os daw o dan y naill neu'r llall o'r categorïau
canlynol:
1. Mae'r gwaith yn waith dros dro (h.y.
goleuadau dros dro, generaduron), ac mae'n cael ei ddefnyddio
ar gyfer gwaith atgyweirio cymwys. Rhaid cael gwared ar y
rhain ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
2. Crëwyd y gwaith wrth wneud gwaith
atgyweirio cymwys arall (h.y. wrth drwsio wal, difrodwyd gwaith
trydan). Yn yr enghraifft hon, dim ond yr elfen a ddifrodwyd
sy'n gymwys, ac nid yw'r gwaith a wnaed ar yr un pryd yn gymwys.
21. A allaf hawlio am dâl
cadw yn unig sydd yn llai na £1,000, ond sy’n
berthnasol i waith a benderfynwyd arno yn flaenorol drwy'r
cynllun?
Na. Ymdrinnir â phob cais yn unigol, felly rhaid iddynt
gyrraedd y trothwy gofynnol, sef £1,000. Os yw eich
tâl cadw yn debygol o fod yn is na'r swm hwn, byddem
yn eich cynghori i gadw'r cais terfynol nes eich bod yn gallu
cynnwys yr anfoneb hon.
YMHOLIADAU CYFFREDINOL
22. Beth yw'r dyddiad cau / terfyn amser ar gyfer cyflwyno
cais?
Dyddiad terfynu’r cynllun ar hyn o bryd yw 31 Mawrth
2011. Nid oes terfyn amser ar gyfer cyflwyno ceisiadau o dan
y cynllun hwn.
23. A oes cyfyngiad ar nifer
y ceisiadau y gallaf eu cyflwyno?
Nac oes.
24. Apeliadau - Beth gallaf ei
wneud os derbyniaf daliad nad wyf yn cytuno ag ef?
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r Llinell
Gymorth Mannau Addoli Rhestredig. Os yw'r mater yn parhau
heb ei ddatrys, cyfeirir eich cais at yr Adran dros Ddiwylliant,
y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer penderfyniad terfynol.
25. Wrth wneud cais, a allwn
ni enwebu i bwy y gwneir y taliadau?
Dylid gwneud taliadau i'r sefydliad sy'n talu'r gost TAW
am yr atgyweirio – y Cyngor Plwyf Eglwysig neu gorff
priodol fyddai hwn fel arfer.
|