Y BROSES 4 CAM
Bydd y broses 4 cam yn eich cynorthwyo i ddeall a ydych yn
gymwys ar gyfer y cynllun neu beidio. Os gallwch ateb
“ie” i’r tri chwestiwn isod, dylech chi
lenwi’r ffurflen gais:
- A yw’n adeilad rhestredig lle yr unig ddefnydd neu’r prif ddefnydd yw fel man addoli crefyddol cyhoeddus?
- A yw ar gael i’r cyhoedd ar gyfer o leiaf 6 gwasanaeth crefyddol y flwyddyn ac a gyhoeddir yr argaeledd ac nid
yw drwy wahoddiad yn unig?
- A yw’r gwaith yn gymwys?
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, siaradwch ag
un o’n cysylltyddion ar 0800 500 3009. Codir am alwadau ar
y gyfradd leol.
CAM 1- MAN ADDOLI

Nodyn 1.1: ‘yn unig neu’n bennaf’
Rhaid i'r adeilad gael ei ddefnyddio'n unig neu'n bennaf
fel addoldy cyhoeddus.
Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw neuaddau eglwys yn bodloni’r
maen prawf o gael eu defnyddio’n unigol neu’n
bennaf ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus. Bydd angen i chi
ddarparu tystiolaeth bod mwy o ddefnydd yn cael ei
wneud o’r lle fel man addoli cyhoeddus na chyfanswm
yr holl ddefnyddiau eraill. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i
neuadd fod yn adeilad rhestredig yn ei rinwedd ei hun.
Mewn achosion pan fydd neuadd yn cael ei defnyddio’n
bennaf fel man addoli crefyddol cyhoeddus,
efallai y
byddwn yn talu rhai costau, ond dim ond y rhai sy’n
codi mewn perthynas â defnydd fel man addoli crefyddol.
Felly,
bydd angen i’r holl anfonebau gael eu dosrannu’n
unol â hynny
Nid yw hyn yn cynnwys adeiladau rhestredig atodol
unigol neu strwythurau ar wahân oni bai eu
bod yn
bodloni’r un amodau â’r prif adeilad, h.y.
man addoli crefyddol cyhoeddus yw eu hunig ddefnydd neu eu
prif
ddefnydd, neu y cânt eu cysylltu’n barhaol â
strwythur yr adeilad rhestredig, neu maent yn rhan ohono.
Bwriad y cynllun yw cynorthwyo gyda gwaith i fannau addoli
lle byddai’r costau’n gyfrifoldeb cynulleidfa
leol neu
enwad neu grŵp ffydd cydnabyddedig.
Nid yw capeli preifat, a chapeli mewn ysgolion,
colegau, prifysgolion, ysbytai, carchardai
ac elusendai yn
gymwys o dan y cynllun oni bai bod POB UN
o’r canlynol yn gymwys:
- Mae’r adeilad ar gael i’r cyhoedd am o leiaf
6 gwasanaeth crefyddol y flwyddyn, ac mae’r argaeledd
hwnnw’n
cael ei gyhoeddi ac nid yw trwy wahoddiad yn unig;
- Unig ddiben neu brif ddiben yr adeilad yw addoldy crefyddol
cyhoeddus;
- Cyfrifoldeb cynulleidfa leol neu grwp ffydd cydnabyddedig
yw costau’r gwaith.
Nid yw rhannau o’r adeilad a ddefnyddir ar gyfer llety
yn gymwys o dan y cynllun. Yr unig eithriad i hyn yw pan
ddarperir y llety ar gyfer ei ddefnyddio dros dro yn unig
fel lloches ar gyfer pobl ddigartref neu at ddibenion
cymdeithasol/lles tebyg. Pan fydd elfen yn cael ei defnyddio
ar gyfer llety anghymwys, mae’n rhaid gwneud canran
y lle a ddyrennir ar gyfer y diben hwn yn glir ar y cais.
NI chynhwysir adeilad a roddir ar gael i’w ddefnyddio
gan weinidog neu grefydd yn llwyr neu’n bennaf fel preswylfa
er mwyn cyflawni dyletswyddau ei swydd.
Mae’r cynllun yn cwmpasu sefydliadau crefyddol a gyfansoddir
yn ffurfiol yn unig. Gofynnir i chi ardystio bod gan y
sefydliad crefyddol a wasanaethir gan yr addoldy:
statws elusennol, neu mae’n cael ei gydnabod yn
elusen gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi
ymwneir â hi gan gyngor eglwys plwyfol neu’r
cyfwerth; neu
os nad yw unrhyw un o’r rhain yn gymwys, gofynnir
i chi ddarparu copi o’ch cyfansoddiad.
Mae’n rhaid defnyddio’r adeilad fel man
addoli cyhoeddus o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
Gofynnir i chi
ardystio bod hyn yn wir, ac mae’n bosibl y gwneir rhagor
o ymholiadau.
Nodyn 1.4: ‘mynachdai, lleiandai a sefydliadau penodol
sy’n gofalu am eglwysi segur’
Nid yw’n ofynnol i rai addoldai penodol ddangos y
cânt eu defnyddio ar gyfer addoli crefyddol cyhoeddus
o leiaf
chwe gwaith y flwyddyn. Mae’r rhain yn addoldai a ddefnyddir
gan fynachdai, lleiandai a sefydliadau tebyg, ac
eglwysi a berchenogir neu a ymddiriedir mewn rhai sefydliadau
penodol sy’n gofalu am addoldai segur.
Dyma’r
Ymddiriedolaeth Capeli Hanesyddol, Cyfeillion Eglwysi Digyfaill,
Ymddiriedolaeth Eglwysi Segur Yr Alban,
Ymddiriedolaeth Cadw Eglwysi ac Ymddiriedolaeth Adeiladau
Crefyddol Cymru.
O 1 Hydref 2013, bydd yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon yn ystyried ceisiadau gan grwpiau crefyddol
neu elusennol eraill sy’n gofalu am addoldai segur.
Byddai angen i’r grwpiau hyn ddangos mai eu prif ddiben
yw
cadw, atgyweirio a chynnal a chadw addoldai segur nad ydynt
mewn perchnogaeth breifat.
Ar y cychwyn cyntaf, dylid gwneud cais i’r Cynllun
Grantiau ar gyfer Addoldai Rhestredig a dylai gynnwys rhif
yr
elusen lle bo’n gymwys, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth
ategol i ddangos sut y bodlonir y meini prawf.
Ar gyfer mynachdai a lleiandai, a sefydliadau tebyg
o ffydd arall, dim ond elfen yr adeilad a ddefnyddir
ar gyfer
addoli crefyddol sy’n gymwys. Nid yw mannau eraill yn
yr adeilad (e.e. llety, ardal fwyta ayyb.) yn gymwys. Os yw
gwaith yn ymwneud ag ardaloedd cymwys ac anghymwys, mae’n
rhaid datgan y rhaniad hwn ar y cais.
CAM 2 - ADEILAD RHESTREDIG

Nodyn 2.1: ‘adeilad rhestredig’
Er mwyn bod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid bod
eich addoldy wedi’i restru gyda’r asiantaeth restru
statudol berthnasol (English Heritage, CADW, Historic Scotland
neu Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon), a rhaid i’ch
cais ymwneud â gwaith a wnaed tra bod y rhestriad mewn
grym.
Nid yw rhestriadau a wneir gan gynghorau lleol yn dderbyniol
yn y cynllun. Mae’n rhaid i’r rhestriad gael ei
gymeradwyo gan yr asiantaeth restru statudol berthnasol.
Os anfonir eich cais yn ôl atoch oherwydd na allwn
adnabod rhestriad eich adeilad, nid yw hyn o reidrwydd yn
golygu nad yw’ch eglwys wedi’i rhestru –
gall olygu bod y manylion a gofrestrwyd ar y pryd ychydig
yn wahanol i’r rhai a nodir ar y ffurflen gais. Dylech
ddychwelyd eich ffurflen gais ynghyd â’r gwaith
papur i ddangos eich rhestriad gyda’r asiantaeth restru
statudol berthnasol.
Bydd rhan o’n proses gymeradwyo’n cynnwys gwirio yn erbyn
y cofnodion statudol bod eich adeilad wedi’i restru’n ffurfiol.
Gellir rhestru adeiladau am eu pwysigrwydd pensaernïol neu
hanesyddol, cysylltiad hanesyddol agos â phobl neu ddigwyddiadau
pwysig yn genedlaethol, neu eu gwerth fel rhan o grŵp,
gan yr awdurdod rhestru yn eich gwlad. Mae oedran a phrinder
yn ystyriaethau perthnasol, ond po hynaf yr adeilad, tebycaf
yw y bydd wedi ei restru. Nid yw adeiladau sy'n llai na deng
mlynedd ar hugain oed yn cael eu hystyried ar gyfer eu rhestru
fel arfer. Gwelir y manylion am sut i restru adeilad yn Atodiad
A.
Mae Historic England yn rheoli cronfa ddata Rhestr Treftadaeth
Genedlaethol Lloegr ac mae’n cynnig gwybodaeth gyfredol am
asedau treftadaeth â dynodiad cenedlaethol yn Lloegr. Gallwch
ddefnyddio’r gronfa ddata i weld a yw adeilad yn Lloegr wedi’i
restru
https://www.historicengland.org.uk/listing/the-list/
Mae Historic Scotland hefyd yn rheoli cronfa ddata i roi
gwybodaeth am adeiladau rhestredig yn Yr Alban. Gallwch ddefnyddio’r
gronfa ddata a ganlyn i weld a yw adeilad yn Yr Alban wedi’i
restru:
http://www.historic-scotland.gov.uk/index/heritage/historicandlistedbuildings.htm
Gallwch chwilio am adeiladau rhestredig yng Ngogledd Iwerddon,
gan ddefnyddio’r gronfa ddata a reolir gan Adran yr
Amgylchedd, Gogledd Iwerddon:
https://apps.communities-ni.gov.uk/Buildings/buildMain.aspx?Accept
CAM 3 - GWARIANT CYMWYS

Nodyn 3.1: Gwerth isaf y gwaith sy’n gymwys ar gyfer
y cynllun
Gwerth lleiafswm yr anfonebau (ac eithrio TAW) ar
gyfer unrhyw un hawliad o dan y cynllun yw £1,000.
Mae’n bosibl y bydd cais yn cynnwys nifer o anfonebau
llai, ond mae’n rhaid i bob hawliad gyfeirio at waith
sy’n
gymwys o dan y cynllun a gyda’i gilydd rhaid iddynt
gynhyrchu gwerthoedd anfonebau cyfunol nad ydynt yn llai na
£1000 ac eithrio TAW.
O 1 Hydref 2013, bydd pob addoldy rhestredig yn cael
cyflwyno un hawliad yngl??n â gwaith sydd â gwerth
o
lai na £1000, ond yn fwy na £500 (ac eithrio’r
TAW a delir) mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis. Cafodd
y
newid hwn ei gyflwyno er mwyn galluogi addoldai sy’n
ymgymryd â gwaith llai i hawlio o dan y cynllun.
Nodyn 3.2: Anfonebau yn h n na 12 mis oed
Ni fydd anfonebau’n cael eu derbyn mwyach lle bônt dros 12
mis oed o’u dyddiad cyflwyno i ddyddiad derbyn y cais am grant.
Nodyn 3.3: ‘atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu’
Dim ond gwaith a wneir i atgyweirio, cynnal a chadw neu addasu
ffabrig adeilad rhestredig presennol sy'n gymwys.
Mae'r ffabrig yn cynnwys ei sylfeini, waliau, toeau, nwyddau
d.r glaw, draeniau, arwynebau mewnol, lloriau, grisiau, pen
grisiau, dargludyddion mellt a'r holl ddrysau a ffenestri.
Cyflwynir rhestr o waith cymwys ac anghymwys yn adran Crynodeb
y ddogfen hon.
Addasiadau cymeradwy.
Mae’n bosibl y bydd addasiadau neu waith i ffabrig addoldy
rhestredig yn gofyn am ganiatâd perthnasol gan yr awdurdodau
priodol. Yn achos adeilad eglwysig y mae adran 60 Deddf Cynllunio
(Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 neu Adran
54 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth)
(Yr Alban) 1997 yn berthnasol iddo, mae caniatâd perthnasol
yn golygu caniatâd ar gyfer yr addasiadau cymeradwy gan gorff
cymwys sydd â’r awdurdod i gymeradwyo addasiadau i adeiladau
o’r fath.
Nid oes angen cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig o’r gymeradwyaeth
hon ym mhob hawliad. Fodd bynnag, gofynnir i ymgeiswyr ddatgan
lle bo angen caniatâd am waith addasu, eu bod wedi cael y
gymeradwyaeth hon cyn cychwyn ar y gwaith. Efallai y gofynnir
i ymgeiswyr roi tystiolaeth ysgrifenedig o gymeradwyaeth,
neu i ddangos pam nad oedd angen caniatâd, os caiff eu hawliad
ei ddethol ar gyfer archwiliad ar ôl talu.
Os yw ymgeiswyr yn ansicr ynghylch p’un a oes angen caniatâd
ar gyfer gwaith addasu, dylent gysylltu â chorff cynghorol
eu henwad (yn achos enwadau lle mae’r Eithriad Eglwysig yn
weithredol) neu eu Hawdurdod Lleol.
Nodyn 3.4: ‘cofrestredig ar gyfer TAW’’
Er mwyn hawlio o dan y cynllun, mae’n rhaid i waith cymwys
gael ei wneud gan gontractwr sydd wedi'i gofrestru ar gyfer
TAW. Ni ddylai contractwr nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer
TAW godi TAW arnoch am wneud gwaith i chi.
Dylech sicrhau bod y contractwr wedi'i gofrestru at ddibenion
TAW trwy ofyn am ei rif cofrestru TAW, y mae’n rhaid ei ddangos
ar yr anfoneb. Cynhelir gwiriadau archwilio ar ôl talu ar
ganran o hawliadau. Os cewch eich dewis ar gyfer un o’r gwiriadau
hyn, dylech fod yn ymwybodol y byddwn yn cysylltu â’r holl
gontractwyr rydych wedi hawlio TAW oddi wrthynt ar eich cais,
er mwyn cadarnhau’r manylion gwahanol.
Gall addoldai sydd wedi eu cofrestru at ddibenion TAW am
eu bod yn codi tâl mynediad neu'n cynnal gweithgareddau busnes,
adennill cyfradd o’r TAW maent yn mynd iddi drwy Gyllid a
Thollau Ei Mawrhydi.
Y lefel o TAW anadferadwy yn achos yr adeiladau hyn fydd
yr uchafswm sy’n daladwy o dan y cynllun. Er enghraifft, os
dosberthir 40% o’r addoldy yn eiddo masnachol, a bod modd
iddo adennill 40% o’r costau TAW drwy Gyllid a Thollau Ei
Mawrhydi, dim ond y 60% o’r costau TAW sy’n weddill y byddai
modd eu hadennill drwy Gynllun Grant Addoldai Rhestredig,
os ydynt yn ymwneud â gwaith cymwys.
Mae rhagor o fanylion am ostyngiadau TAW sydd ar gael i adeiladau
rhestredig wedi’u hamlinellu yn Nodyn 3.5 isod.
Cyswllt i nodyn cyfarwyddyd perthnasol
Ni fydd cyfradd safonol yn berthnasol yn achos yr holl waith
adeiladu a wneir ar addoldy rhestredig. Mae gostyngiadau TAW
eraill sy’n berthnasol yn ehangach i adeiladau a ddefnyddir
gan elusennau neu adeiladau a ddefnyddir at ddiben elusennol
perthnasol (defnydd nad yw’n ymwneud â busnes gan elusen neu
fel neuadd bentref neu ei thebyg). Mae’r rhain y cynnwys:
Gostyngiadau Cyfradd Sero
- Cyflenwi gwasanaeth adeiladu esgynfeydd ac ehangu pyrth
a chynteddau mewn unrhyw adeilad ar gyfer
elusen at ddiben hwyluso mynediad a symudiad unigolyn anabl
(gweler Hysbysiad Cyhoeddus 701/7
“Gostyngiadau TAW ar gyfer Pobl Anabl” Pennod
6).
- Cyflenwi gwasanaeth ar gyfer elusen yn cynnwys darparu,
ymestyn neu addasu ystafell ymolchi neu doiled i
unigolyn anabl ei defnyddio mewn adeilad a ddefnyddir yn
bennaf at ddibenion elusennol “Gostyngiadau TAW
ar gyfer Pobl Anabl” (gweler Hysbysiad Cyhoeddus 701/7
“Cymhorthau TAW ar gyfer Pobl Anabl”.
- Adeiladu a gwerthu adeilad newydd i’w ddefnyddio
at ddiben elusennol perthnasol yn unig (gweler Hysbysiad
Cyhoeddus 708 Adeiladau ac Adeiladu Pennod 3) Mae adeilad
yn newydd:-
- lle nad oedd unrhyw adeilad yn ardal yr adeiladu yn
flaenorol
- lle y cafodd yr adeilad blaenorol ei ddymchwel i lefel
y tir
- lle mai’r cwbl sydd ar ôl o’r adeilad
blaenorol yw ffasâd unigol neu os yw ar gornel,
ffasâd dwbl. Yn y ddau achos, mae’n rhaid
bod cadw’r ffasadau yn un o amodau’r caniatâd
cynllunio.
- Mewn rhai achosion, caiff adeiladu rhandy newydd
i addoldy rhestredig gyfradd sero at ddibenion TAW.
(Mae rhandy, at ddiben penderfynu ar atebolrwydd TAW ynghlwm
ag adeiladau). Mae cyfradd sero yn digwydd lle y bodlonir
yr amodau canlynol:
- bwriedir defnyddio’r rhandy at ddefnydd elusennol
perthnasol yn unig
- mae modd i’r rhandy weithredu’n annibynnol ar yr adeilad
presennol
- nid yw prif fynedfa’r rhandy drwy’r adeilad neu’r
cyfdro presennol.
Mewn achosion lle nad yw’r hyn a adeiladwyd yn bodloni’r
amodau uchod, ni chaiff gyfradd sero at ddibenion TAW
ac mae’n debygol o fod yn helaethiad, neu’n estyniad i’r
adeilad. Mae gwaith o’r fath yn debygol o fod yn gymwys
ar gyfer Cynllun Grant Addoldai Rhestredig.
Gostyngiad Cyfradd Is
Hyd at 31 Gorffennaf 2013, roedd gosod rhai deunyddiau arbed
ynni yn ddarostyngedig i gyfradd is o 5% pan gânt
eu gosod mewn adeiladau a ddefnyddir at ddiben elusennol perthnasol.
Gweler Hysbysiad Cyhoeddus 708/6
“Deunyddiau Arbed Ynni" Pennod 2. Tynnwyd y cymorth
hwn yn ôl o 1 Awst 2013.
Costau TAW o waith sy’n perthyn i gyflenwadau
trethadwy
Nid yw costau TAW yr eir iddynt mewn gwaith sy’n ymwneud
yn uniongyrchol â chyflenwadau trethadwy yn
gymwys ar gyfer y cynllun a dylid adennill unrhyw gostau o’r
fath drwy’r system TAW. Gallai hyn gynnwys gwaith i
siopau a chaffis. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar:
http://www.hmrc.gov.uk/
vat/start/register/when-to-register.htm
Mae Hysbysiadau Cyhoeddus ar gael yn adran Llyfrgell gwefan
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
www.hmrc.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau mewn perthynas â chodi TAW ar waith i
addoldai rhestredig, dylech gysylltu â Llinell Gymorth Elusennau
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, sydd ar agor o ddydd Llun hyd
at ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) o 8.00 hyd
at 5.00 pm, ar 0845 302 0203. Dylid anfon ymholiadau ysgrifenedig
at:
Elusennau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi
St. Johns House
Merton Road
Liverpool
L75 1BB
Nodyn 3.6: ‘Anfoneb TAW’
Gyda'ch cais, mae'n rhaid cyflwyno anfoneb wreiddiol neu
anfoneb wedi’i llungopïo neu ei sganio oddi wrth y contractwr
sy'n ardystio bod TAW wedi'i thalu. Lle y cyflwynir anfonebau
sydd wedi’u llungopïo neu eu sganio, bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd
lofnodi cadarnhad ar y ffurflen gais ei fod yn gopi gwir ac
y dangosir yr un gwreiddiol os caiff yr hawliad ei ddethol
ar gyfer ei archwilio. Ni fydd hawliadau’n cael eu
talu heb y dystiolaeth ddogfennol hon.
Ni fydd anfonebau’n cael eu derbyn mwyach lle bônt dros 12
mis oed o’u dyddiad cyflwyno i ddyddiad derbyn y cais am grant.
Rhaid i bob anfoneb ddangos rhif cofrestru TAW contractwr,
a’r dyddiad cyflwyno. Os nad yw’r manylion hyn wedi’u nodi,
caiff eich hawliad ei wrthod.
Dim ond gwaith y codwyd TAW arno yn gywir ac a dalwyd sy'n
gymwys. Lle bo cais yn cynnwys anfoneb sy’n berthnasol i adeiladau
neu waith cymwys neu rai nad ydynt yn gymwys, rhaid datgan
y rhaniad naill ai yn yr anfoneb neu yng ngholofn 4 cwestiwn
20.
Lleiafswm gwerth gwaith sy'n gymwys ar gyfer unrhyw
hawliad unigol yw £1,000 (heb gynnwys TAW). Gall
cais gynnwys nifer o anfonebau llai, ond rhaid i bob hawliad
fod ar gyfer gwaith sy'n gymwys o dan y cynllun a rhaid iddynt
ffurfio cyfanswm hawliad o nid llai na £1,000 net, ac eithrio’r
TAW a dalwyd (gweler nodyn 3.1).
O 1 Hydref 2013, bydd pob addoldy rhestredig hefyd
yn cael cyflwyno un hawliad gan ddefnyddio
anfonebau o werth llai na £1000, ond yn fwy na £500
(ac eithrio’r TAW a dalwyd) mewn unrhyw gyfnod
o
ddeuddeg mis.
Os ydych yn gwneud cais ar ran nifer o adeiladau gwahanol,
dylech fod yn ymwybodol bod rhif adnabod unigryw
gan bob addoldy, felly at ddibenion cofnodi ac adrodd, rhaid
cwblhau cais ar wahân ar gyfer pob addoldy unigol.
Nodyn 3.7: Anfonebau Cadw
Caiff anfonebau cadw (anfonebau ar gyfer taliadau terfynol
lle y cafodd arian ei gadw tan gyfnod y cytunwyd arno
ar ôl cwblhau’r gwaith) eu cynnwys gyda gwariant
cymwys arall er mwyn sicrhau y cyflawnir gwerth lleiafswm
yr
hawliad. Yn unol â’r arfer, sicrhewch y cyflwynir
anfonebau cyn pen 12 mis o ddyddiad cyflwyno’r anfoneb.
Wrth gyflwyno hawliad sy’n perthyn i anfoneb cadw,
dylech ddarparu anfonebau neu dystiolaeth ddogfennol arall
bod yr anfoneb cadw’n perthyn i waith adeiladu a oedd
yn gymwys ar gyfer hawliadau o dan y cynllun grant ar gyfer
Addoldai Rhestredig ar yr adeg y gwnaed y gwaith.
Nodyn 3.8: Yswiriant
Ni fydd y cynllun yn talu am hawliadau lle bo cost y TAW
wedi cael ei thalu gan gwmni yswiriant ac na fydd yn talu
grantiau ar unrhyw warged sy’n daladwy gan yr hawliwr.
Lle nad yw cwmni yswiriant yn talu costau TAW, bydd yn
ofynnol i hawlwyr ddarparu dogfennaeth i ardystio hyn.
Os ydych yn hawlio costau TAW lle y cafodd rhai costau eu
talu gan yswiriant, dylech sicrhau nad yw anfoneb sy’n
ategu’r hawliad yn cael ei gyfeirio i’r cwmni
yswiriant, ond i’r addoldy, neu gyswllt perthnasol o
fewn yr addoldy.
Os nad oes yswiriant gennych, gellir hawlio swm cyfan y TAW
drwy’r cynllun hwn.
Nodyn 3.9: Dyfarniad grant blaenorol
Os yw’r gwaith a wnaed wedi bod yn destun dyfarniad
grant blaenorol ar gyfer costau gwaith adeiladu, gan
gynnwys TAW, gan English Heritage, Historic Scotland, Cadw,
Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Asiantaeth yr
Amgylchedd Gogledd Iwerddon neu ddosbarthwr neu gorff rhoddi
grantiau'r Loteri arall, bydd yn ofynnol i addoldai
dalu cyfran berthnasol y grant a dderbynnir o’r Cynllun
Grant ar gyfer Addoldai Rhestredig yn ôl i’r asiantaethau
statudol (uchod), oni bai y cafodd y grant gwreiddiol ei addasu
eisoes er mwyn ystyried y Cynllun Grant ar gyfer
Addoldai Rhestredig.
Fel llofnodwr, gofynnir i chi ardystio y bydd yr addoldy’n
talu’r ad-daliadau sy’n ddyledus. Caiff manylion
y ceisiadau eu darparu i’r asiantaethau dyfarnu grantiau
perthnasol.
Nodyn 3.10: Contractau Gwaith
Wrth gyflwyno cais cyntaf ar gyfer contract gwaith, mae’n
rhaid ategu hyn gan y ddogfen tendro gysylltiedig (gellir
cyfeirio at hyn hefyd fel ‘Manyleb Gwaith wedi’i phrisio’
neu ‘Fil Meintiau’) Dylai’r ddogfen hon roi manylion am y
gwaith sy’n cael ei wneud ynghyd â gwerthoedd cysylltiedig.
Dylech fod yn ymwybodol, lle na chyflwynir y ddogfen hon,
neu nad yw’n darparu’r manylion sy’n ofynnol, caiff eich hawliad
ei ddychwelyd ar gyfer camau pellach.
Bydd y cynllun grant yn adolygu’r ddogfennaeth ategol
ac yn cyfrifo canran cymwys y contract yn gyffredinol.
Wedyn, caiff y canran hwn ei gymhwyso i unrhyw ffioedd proffesiynol
cymwys perthnasol.
CAM 4 - CWBLHAU'R CAIS
Dylech ond gwblhau’r ffurflen
gais os ydych wedi dilyn y broses 4 cam a esbonnir uchod ac
yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Dylech lenwi’r ffurflen gais yn glir a sicrhau y caiff pob
adran ei llenwi. Bydd hyn yn helpu i atal oedi o ran prosesu
a thalu eich hawliad. Anfonwch eich ffurflen gyflawn at Topmark (LPOW), 160 Bath Street, Glasgow, G2 4TB. Rydym yn argymell yn gryf eich
bod yn cael prawf o bostio, ac yn cadw copi o’ch cais a phob
dogfen ategol.
Os oes angen unrhyw gymorth
arnoch, siaradwch ag un o’n cysylltyddion ar 0800 500 3009. Codir am hyn fel ar gyfer galwad leol.
Adran 1: Manylion Cyswllt |
Cyfarwyddiadau |
Enw/cysegriad yr addoldy rhestredig |
Rhowch enw llawn yr addoldy rhestredig y mae’r
hawliad yn perthyn iddo |
Cyfeiriad yr addoldy rhestredig |
Rhowch gyfeiriad yr addoldy rhestredig y mae’r
hawliad yn perthyn iddo. Sylwer bod rhaid rhoi’r
sir ym mhob achos |
Enw’r awdurdod lleol/cyngor y mae’r addoldy
wedi’i
leoli ynddo |
Rhowch enw’r awdurdod lleol neu’r cyngor
y mae’r
addoldy wedi’i leoli ynddo. Yng Nghymru a’r
Alban yr
awdurdod unedol fydd hwn. Yng Ngogledd Iwerddon
y Cyngor Dosbarth fydd hwn. Yn Lloegr, naill ai
Bwrdeistref Llundain, y Fwrdeistref Fetropolitan, y
Cyngor Dosbarth neu’r Cyngor Unedol fydd hwn
|
Crefydd neu Enwad |
Rhowch y grefydd ac /neu enwad a wasanaethir gan
yr addoldy |
Enw’r unigolyn/ sefydliad sydd â chyfrifoldeb
cyfreithiol ar gyfer y gwaith y mae’r cais yn perthyn
iddo. |
Efallai mai chi yw hwn neu gall fod yn gorff arall |
Manylion gohebwyr |
Rhowch enw pwy bynnag a fyddai yn y sefyllfa orau i
ymdrin ag ymholiadau, os bydd angen. Dylech hefyd fod
yn ymwybodol y bydd yr unigolion yn derbyn yr holl ohebiaeth
(gan gynnwys hysbysiad am daliadau ac anfonebau a ddychwelir).
Ni all gweinyddwyr y grant siarad ag unrhyw unigolyn
arall yngl n â datrys ymholiadau |
Adran 2: Man Addoli |
Cyfarwyddiadau |
6 |
Gweler Nodyn 1.1 yn y nodiadau arweiniad |
7 |
Gweler Nodyn 1.3 yn y nodiadau arweiniad |
8 |
Gweler Nodyn 1.4 yn y nodiadau arweiniad |
9 |
Gweler Nodyn 1.2 yn y nodiadau arweiniad |
Adran 3: Adeilad Rhestredig |
Cyfarwyddiadau |
10 Graddfa neu gategori rhestru |
Mae gan adeiladau rhestredig nifer o raddfeydd neu
gategorïau. Rhowch y raddfa neu gategori rhestru
os ydych yn ei wybod |
Adran 4: Gwariant Cymwys |
Cyfarwyddiadau |
11 |
Gweler Cam 3 yn y nodiadau arweiniad |
12 Disgrifiad o'r gwaith |
Sylwer, efallai y bydd angen i ni wirio bod y gwaith
yn perthyn i ffabrig yr adeilad fel yr esbonnir yng
Ngham 3 y nodiadau arweiniad. Dylech sicrhau bod
y ddogfennaeth ategol a amgaeir gennych yn ein
galluogi i wneud hyn |
13 |
Gweler Nodyn 3.4 yn y nodiadau arweiniad |
14 |
Gweler Nodyn 3.4 yn y nodiadau arweiniad |
15Cyfradd net TAW effeithiol |
Bydd angen i ni weld tystiolaeth o unrhyw ddull
dosrannu busnes/dull dosrannu nad yw’n ymwneud
â busnes a gytunir gyda Chyllid a Thollau Ei
Mawrhydi. Fel arfer, bydd hyn ar ffurf llythyr gan
Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a dylid ei amgáu
gyda’ch cais |
16 |
Fel yr uchod |
17 |
Gweler Nodyn 3.9 yn y nodiadau arweiniad |
21 |
Gweler Nodyn 3.3 yn y nodiadau arweiniad |
22 |
Gweler Nodyn 3.3 yn y nodiadau arweiniad |
|
Adran
5: Eich hawliad |
Dangosir enghreifftiau o hawliadau isod:
Mae’r gwaith ar yr anfoneb yn gwbl gymwys
Cyf.
Anfoneb |
Cyfanswm
Net
(1) |
Cyfradd
TAW
(2) |
% o’r Gwaith Cymwys
a Adenillir
(3)
|
Cyfanswm Gwerth y Grant
a Hawliwyd
(4)
|
ABC123 |
£150.00 |
20% |
100% |
£30.00 |
(1) |
Swm cymwys yr anfoneb cyn ychwanegu
TAW. |
(2) |
Cyfradd wirioneddol TAW a godwyd (20%
fydd y gyfradd TAW gyfredol yn y mwyafrif o achosion). |
(3) |
Y gwaith a nodir ar yr anfoneb rydych
yn ei ystyried yn gymwys. (Mae’r enghraifft yn
gwbl gymwys, ac felly 100% yw hwn). Dim ond yn rhannol
gymwys y mae’r enghraifft isod, felly mae hyn
yn dangos canran is). |
(4) |
Yr arian yr ydych yn gofyn amdano gan
y cynllun grant mewn perthynas â’r anfoneb
benodedig. |
Mae’r gwaith ar yr anfoneb yn rhannol gymwys
yn unig:
Cyf. Anfoneb |
Cyfanswm Net
(1) |
Cyfradd TAW
(2) |
% o’r Gwaith Cymwys a Adenillir
(3)
|
Cyfanswm Gwerth y Grant a Hawliwyd
(4)
|
ABC123 |
£150.00 |
20% |
75% |
£22.50 |
Lleiafswm gwerth gwaith sy'n gymwys ar gyfer unrhyw hawliad
unigol yw £1,000 (heb gynnwys TAW), gweler nodyn 3.1
i weld eithriad i hyn. Os nad ydych wedi ymgymryd â
gwaith o’r gwerth hwn, cadwch eich holl ddogfennaeth
a chyflwynwch y cais pan fydd gennych yr anfonebau cymwys
ychwanegol, a fydd yn dod â’r cyfanswm i’r
isafswm sy’n ofynnol. Sylwer, ni ellir derbyn anfonebau
lle y bônt yn hyn na 12 mis oed o’r dyddiad cyhoeddi
i’r dyddiad y derbynnir y cais am y grant.
Os yw eich hawliad yn cynnwys addasiadau (naill ai fel rhan
o’r cais hwn neu fel rhan o gontract gwaith), efallai
y
bydd yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol o’r
caniatâd cynllunio os cewch eich dewis ar gyfer archwiliad
ar ôl talu.
Adran 6:
Eich manylion talu |
Dylai unigolyn sydd wedi'i awdurdodi gan y sefydliad sydd
â chyfrifoldeb cyfreithiol dros y man addoli, lofnodi'r
datganiad hwn.
Dylai hwn gael ei lofnodi gan unigolyn yn y sefydliad sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer yr addoldy.
Sicrhewch y rhoddir ticiau yn erbyn pob datganiad, oherwydd caiff ceisiadau anghyflawn eu dychwelyd.
|