|
CWESTIYNAU CYFFREDIN
YMHOLIADAU RHESTRU
- Nid wyf yn gwybod
a yw’r addoldy’n rhestredig. Sut gallaf gael gwybod?
Cysylltwch naill ai ag Adran Cynllunio eich Awdurdod Lleol,
neu â’r asiantaeth rhestru statudol berthnasol
(i gael manylion cyswllt, cyfeiriwch at Atodiad A ar glawr
cefn y daflen hon). Ni fydd atgyweiriadau i adeiladau nad
ydynt yn rhestredig yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn. Fodd
bynnag, os ydych yn ystyried bod angen rhestru’r adeilad,
dylech ystyried cyflwyno cais i’r asiantaeth rhestru
statudol berthnasol.
I wirio a restrir y man addoli sy'n destun eich cais, cyfeiriwch at y dolenni perthnasol isod:
- Os trefnaf i’m hadeilad
gael ei restru nawr, a allaf wneud cais am waith a wnaed
cyn iddo gael ei restru?
Na allwch. Ni chaiff
hawliadau eu derbyn ar gyfer gwaith a wneir ar adeiladau
nad ydynt yn rhestredig ar yr adeg honno, ni waeth a ydynt
yn cael eu rhestru wedyn yn y dyfodol. Caiff hawliadau ond
eu hystyried ar gyfer atgyweiriadau i adeiladau sy’n
rhestredig ar yr adeg y gwneir y gwaith.
- Nid wyf yn gwybod
fy ngraddfa neu gategori rhestru. A oes ots?
Nac ydy, rydym ond yn defnyddio’r wybodaeth hon i groesgyfeirio
eich manylion ar ein cofrestr o adeiladau rhestredig. Gellir
gadael C10 yn wag – ni fydd hyn yn oedi prosesu eich cais.
YMHOLIADAU ANFONEBAU / TAW
- A allaf wneud cais
os ydwyf wedi colli fy anfonebau TAW?
Gallwch wneud cais gyda chopi o’r anfoneb wreiddiol;
fodd bynnag, efallai y bydd yn ofynnol i chi ddarparu copi
arall wedi’i farcio fel copi gwir ac ardystiedig,
wedi’i lofnodi a’i dyddio gan y contractwr os
caiff eich hawliad ei ddewis ar gyfer archwiliad ar ôl
talu.
- A allaf wneud cais
os nad ydwyf wedi talu fy anfoneb TAW?
Na allwch. Mae'n rhaid eich bod wedi talu eich anfoneb TAW
cyn gwneud cais am grant o dan y cynllun hwn.
- A allaf gyflwyno fy
holl anfonebau i’r gweithredwr er mwyn iddynt benderfynu
beth sy’n gymwys?
Na allwch. Mae’n hanfodol eich bod yn darllen yr Arweiniad
i’r Cynllun Grantiau ar gyfer Addoldai Rhestredig ac yn
cyflwyno anfonebau sy’n perthyn i waith sy’n gymwys ar gyfer
y cynllun hwn yn unig. Bydd cyflwyno nifer fawr o anfonebau
amhriodol i’r gweithredwr yn cynyddu’r posibilrwydd o’ch
cais yn cael ei wrthod, ac efallai y bydd yn achosi oedi
cyffredinol o ran prosesu ceisiadau.
- A oes rhaid i’r
contractwr fod wedi'i gofrestru ar gyfer TAW er mwyn bod
yn gymwys?
Oes. Ni ddylid codi am TAW arnoch ar waith a gyflenwir gan
gontractwr nad yw’n gofrestredig ar gyfer TAW.
- Os ydwyf yn gwneud
gwaith yn uniongyrchol ac mae’n rhaid i mi dalu TAW, a allaf
adfer hyn??
Dim ond os ydych yn gontractwr sy’n gofrestredig ar
gyfer TAW ac yn llunio anfoneb TAW berthnasol ar gyfer y
gwaith a wnaed.
- Cafodd y gwaith ei
wneud gan gontractwr nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer TAW.
A allwn ni hawlio ar gyfer y TAW ar y deunyddiau y gwnaethom
eu prynu?
Na allwch. Ni allwch hawlio ar gyfer TAW ar ddeunyddiau
oni bai eu bod yn cael eu cyflenwi fel rhan o gyflenwad
ehangach o waith gan gontractwr sy’n gofrestredig
ar gyfer TAW.
- A allaf gyflwyno anfonebau
sy’n h..n na 12 mis oed os ydynt yn perthyn i waith sy’n
gymwys?
Na allwch. Caiff anfonebau sy’n hyˆn na 12 mis
oed eu gwrthod oherwydd nad ydynt yn gymwys.
YMHOLIADAU AM FFURFLENNI CAIS
- Ni fydd gan y bobl sy’n
llofnodi’r ffurflen wybodaeth gyflawn am y gwaith
a wneir. A oes ots?
Dylai fod gan y cyswllt a nodir ar y ffurflen gais wybodaeth
am y gwaith a wneir. Dyma’r unigolyn y byddwn yn cyfeirio
pob ymholiad ato, a dychwelyd yr holl waith papur ato. Ni
fyddwn yn cyfathrebu ag unrhyw drydydd parti (e.e. contractwr,
pensaer neu gysylltiadau amgen eraill).
Mae’r llofnodwyr yn gyfrifol am y datganiadau a wneir
ar y ffurflen gais.
- Pwy all gydlofnodi’r
cais?
Dylai’r cyd-lofnodwr fod yn rhywun sy’n meddu
ar swydd gyfrifol addas o fewn yr addoldy, h.y. offeiriad,
trysorydd, warden eglwys.
- A gaiff y wybodaeth
a gyflwynir ar y ffurflen gais ar gyfer yr Addoldai Rhestredig
ei rhestru gydag asiantaethau statudol eraill?
Caiff. Caiff asiantaethau statudol eu hysbysu am bob grant
a ddyfernir gan y Cynllun Addoldai Rhestredig. Mae hyn er
mwyn osgoi’r posibilrwydd o arian cyhoeddus yn cael ei dalu
ddwywaith ar gyfer yr un costau.
- A allaf wneud cais
am grant Addoldai Rhestredig (LPW) ac am un gan asiantaeth
statudol ar gyfer yr un gwaith?
Gallwch. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi sicrhau bod y grant
o’r asiantaeth statudol arall yn ystyried eich grant Addoldai
Rhestredig. Os nad yw’n gwneud hyn, bydd rhaid i chi ad-dalu
cyfran berthnasol yr arian rydych yn ei dderbyn ar gyfer
y grant Addoldai Rhestredig.
- Dyfarniadau grant blaenorol
– pam na all y cynllun Addoldai Rhestredig leihau’r
swm sy’n daladwy i’r addoldy, ac ad-dalu’r
sefydliad grant yn uniongyrchol?
Mae unrhyw ddyfarniad grant blaenorol yn gontract rhwng
yr addoldy a’r sefydliad talu grant, ac nid yw’n gysylltiedig
â’r cynllun hwn.
- Mae’r eglwys neu neuadd
yr eglwys yn cael ei defnyddio hefyd ar gyfer cyfarfodydd
cymunedol, grwpiau sgowtiaid ac yn y blaen. A yw hyn yn
gymwys o dan y cynllun?
Ydy, cyhyd â bod y prif ddefnydd ar gyfer addoli crefyddol
cyhoeddus, mae hyn yn iawn. Mae’n bosibl y gofynnir i chi
ddarparu prawf o hwn.
Os caiff unrhyw ran o’r addoldy rhestredig ei defnyddio
ar gyfer llety, nid yw’r elfen hon yn gymwys o dan y cynllun.
Lle bo anfonebau’n ymwneud â defnydd man addoli a llety,
mae’n rhaid gwneud rhaniad y gost yn glir naill ai ar anfoneb
neu ar y cais. Yr unig eithriad i hyn yw lle y defnyddir
y llety ar sail dros dro fel lloches ar gyfer pobl ddigartref
neu ar gyfer dibenion cymdeithasol/lles tebyg.
- Mae’r addoldy ar gau
ar hyn o bryd oherwydd rhesymau Iechyd a Diogelwch. Felly
nid yw wedi cynnal chwe gwasanaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ydw i’n gymwys o hyd?
Cyhyd â bod y gwaith wedi dechrau o fewn cyfnod byr i’r
addoldy gael ei gau, a chyn iddo gau roedd yn cael ei ddefnyddio
ar gyfer o leiaf chwe gwasanaeth yn ystod y flwyddyn flaenorol,
mae hyn yn iawn. Pan fydd oedi rhwng y cau a’r gwaith yn
dechrau, cysylltwch â’r Llinell Gymorth ar 0800 500 3009
i gael cyngor.
Sylwer y mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni gyfeirio’ch achos
at yr Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer
penderfyniad ar gymhwyster.
- Mae cwestiwn 23 yn
peri dryswch.
Os ydych yn cael anhawster llenwi’r adran hon o’r
cais, cysylltwch â’r Llinell Gymorth. Os oes
angen egluro unrhyw bwyntiau arnom ar ôl i’r
hawliad gael ei gyflwyno, byddwn yn cysylltu â'r sawl
a benodwyd i dderbyn
gohebiaeth.
YMHOLIADAU YNGLŶN Â CHYMHWYSTER
- A allaf hawlio am dâl cadw yn unig lle mae’n
llai na £1,000 ond yn ymwneud â gwaith a dalwyd drwy’r cynllun
yn flaenorol?
Na allwch. Ymdrinnir â phob cais yn unigol, felly mae’n
rhaid iddo gyrraedd y trothwy gofynnol o £1,000. Os yw’ch
tâl cadw yn debygol o fod yn llai na’r swm hwn, byddem yn
eich cynghori i gadw’r cais terfynol hyd nes bod modd cynnwys
yr anfoneb hon. Sylwer bod rhaid i anfonebau fod yn llai
na 12 mis oed. Fodd bynnag, o 1 Hydref 2013, bydd pob addoldy
rhestredig hefyd yn cael cyflwyno un hawliad gan ddefnyddio
anfonebau sy’n werth llai na £1000, ond yn fwy na £500 (heb
gynnwys y TAW a dalwyd) mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis
(gweler nodyn 3.1).
YMHOLIADAU CYFFREDINOL
- A oes angen i mi gofrestru gyda’r cynllun
cyn gwneud cais?
Nac oes, nid oes gofyniad i gofrestru o flaen llaw. Wedi
i’r gwaith gael ei gwblhau a’r anfoneb ei thalu, dylech
gyflwyno’r cais.
- Beth yw'r dyddiad cau / terfyn amser ar gyfer
cyflwyno cais?
Bydd y cynllun ond yn derbyn anfonebau hyd at 12 mis o’r
dyddiad cyflwyno. Mae’r Llywodraeth wedi cadarnhau’r cyllid
sydd ar gael ar gyfer y cynllun tan fis 31st Mawrth 2022.
- A oes cyfyngiad ar nifer y ceisiadau y gallaf
eu cyflwyno?
Nac oes.
- Apeliadau – Beth os wyf yn anghytuno â’r grant
a delir i mi ar gyfer hawliad?
Yn y lle cyntaf, dylech gysylltu â’r Llinell Gymorth Mannau
Addoli Rhestredig. Os yw'r mater yn parhau heb ei ddatrys,
cyfeirir eich cais at yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon ar gyfer penderfyniad terfynol.
- Wrth wneud cais, a allwn ni enwebu i bwy y
gwneir y taliadau?
Dylid gwneud taliadau i'r sefydliad sy'n talu'r cost y TAW
am yr atgyweirio – y Cyngor Plwyf Eglwysig neu gorff priodol
fyddai hwn fel arfer.
[Brig y Dudalen]
|
|
Mae galwadau i 0800 500 3009 yn rhydd o linellau tir a symudion.
Bydd galwadau i 0845 013 6601 yn cael eu codi ar y gyfradd leol (Fodd bynnag, gall eich darparwr gwasanaeth roi cyfradd uwch). |
|
 |
|