Gwneir taliadau unwaith yr wythnos. Bob mis byddwn yn cyhoeddi gwerth hawliadau a dderbynnir yn ôl y gyllideb.
HAWLIADAU: Dylech wneud hawliadau rheolaidd drwy gydol oes y prosiect. Bydd y Cynllun ond yn derbyn hawliadau lle
cyflwynir anfonebau o fewn 12 mis ar ôl dyddiad yr anfoneb.
CEFNDIR
Mae Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig:
- yn gymwys ar gyfer atgyweiriadau, cynnal a chadw a gwaith
addasu ar adeiladau rhestredig a ddefnyddir yn bennaf yn
fannau addoli ac addoldai rhestredig sy’n perthyn i neu
sydd wedi’u hymddiried i nifer o sefydliadau a nodir, sy’n
gofalu am addoldai segur;
- yn gymwys i addoldai rhestredig ledled y DU sy’n gynwysedig ar gofrestrau cyhoeddus adeiladau rhestredig a
gedwir ar gyfer Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon;
- yn gymwys i addoldai rhestredig ar gyfer pob crefydd
a grŵp ffydd;
- yn derbyn ôl-geisiadau yn unig;
- ond yn derbyn hawliadau lle y caiff anfonebau eu cyflwyno
o fewn 12 mis o ddyddiad yr anfoneb, gweler nodyn 3.2; ac
- ond yn derbyn ceisiadau lle mae gwerth lleiaf y gwaith
cymwys a wneir ar unrhyw hawliad i’r cynllun yn £1,000
(ac eithrio TAW) (gweler Nodyn 3.1 am eithriad i hyn).
Disgwylir i hawlwyr sicrhau y ceisir am bob cymorth TAW cymwys arall cyn ceisio am grant o dan y cynllun. Rhoddir
enghreifftiau o gymhorthau TAW eraill a allai fod ar gael i addoldai rhestredig yn Nodyn 3.5.
Mae gan y cynllun gyllideb flynyddol sefydlog a gaiff ei
hysbysebu ar wefan y Cynllun Grant Mannau Addoli Rhestredig
(www.lpwscheme.org.uk) bob blwyddyn.
Cynyddwyd y cyllid ar gyfer y cynllun yn sylweddol o 2012/13
a chadarnhawyd y gyllideb tan fis 31st Mawrth 2022. Rydym yn hyderus
y bydd y cyllid hwn yn galluogi iawndal llawn ar gyfer hawliadau
o dan y cynllun. Os yw’n digwydd nad yw hynny’n wir, er bod
hynny’n annhebygol, rhoddir rhybudd ymlaen llaw pe bai angen
cyflwyno terfyn ar y taliad neu newid i amlder y taliadau.
Ein nod yw talu hawliadau cymwys o fewn 30 diwrnod calendr,
lle bo’r ddogfennaeth gywir yn cyd-fynd â nhw, ac ar ôl i
unrhyw ymholiadau gael eu datrys. Mae hawliadau mawr a chymhleth
a’r rhai a gyflwynir heb y ddogfennaeth gywir a chyflawn yn
debygol o ofyn am gyfnod prosesu hirach er mwyn caniatáu i
ymholiadau gael eu datrys.
Mae’r Adran Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Thrysorlys
Ei Mawrhydi yn cynnal cyfarfodydd bob chwe mis gyda chynrychiolwyr
o grwpiau ffydd er mwyn adolygu’r sefyllfa ariannol a gweithrediad
y cynllun.
[Brig y Dudalen]
|