GWNEUD CAIS I GAEL ADEILAD WEDI'I RESTRU
Mae adeiladau’n cael eu hystyried mewn dwy ffordd:
- gall unrhyw un ofyn i’r corff priodol a restrir
uchod ystyried adeilad unigol;
- rhestrir adeiladau os nodir eu bod o ddiddordeb pensaernïol
neu hanesyddol arbennig.
Os ydych am i adeilad gael ei ystyried ar gyfer ei restru,
dylech anfon y canlynol i'r awdurdod rhestru perthnasol a
nodir uchod:
- ffotograffau clir gwreiddiol o'r adeilad yn dangos pob
ochr y gellir mynd ati fel y maent ar hyn o bryd, gan gynnwys
ffotograffau o'r tu mewn os yw hynny'n bosibl (nodwch beth
ydynt ar gefn y ffotograffau);
- map Arolwg Ordnans neu ran o fap 'A to Z' (neu gynllun
safle cyfoes) sy'n dangos ble yn union mae'r adeilad –
os yw'n bosibl nodwch o ba gyfeiriad y tynnwyd y lluniau
a'i god post;
- unrhyw wybodaeth sydd gennych am nodweddion hanesyddol
neu bensaernïol diddorol yr adeilad; manylion am unrhyw
fygythiad i'r adeilad y gwyddoch amdano a allai effeithio
ar ei ddiddordeb hanesyddol neu bensaernïol;
- enwau a rhif ffôn cyswllt y perchennog, lle bo'n
bosibl.
Gallwch wneud cais ar-lein neu ddod o hyd i ragor o wybodaeth
drwy’r cyfeiriadau gwe a ganlyn:
Lloegr:
https://www.historicengland.org.uk/listing/apply-for-listing/
Yr Alban:
http://www.historic-scotland.gov.uk/index/heritage/historicandlistedbuildings/listingproposal.htm
Cymru:
http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/help-advice-and-grants/makingchanges/listedbuildconsent/?lang=en
Gogledd Iwerddon:
https://www.communities-ni.gov.uk/publications/listing-process
|